Croeso i OWL ar gyfer Cynlluniau Gwarchod Gogledd Cymru
Defnyddir OWL gan Gogledd Cymru a chydlynwyr lleol i adeiladu ar a chyfathrebu â 1,000oedd o gynlluniau gwarchod ledled y wlad.
Mae OWL yn ateb datblygedig er mwyn i’r heddlu a chymunedau allu datblygu a rheoli cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth, Gwarchod Ysgolion, Gwarchod Tafarndai, Gwarchod Busnesau ac amrywiaeth o gynlluniau eraill. Mae OWL yn darparu aelodau’r cynlluniau gwarchod â’r negeseuon diweddaraf a negeseuon am droseddau a hynny dros e-bost, ffôn, SMS neu ffacs.
Logio i mewn os ydych eisoes wedi derbyn cyfrinair gan OWL. I ymuno â’ch cynllun Gwarchod y Gymdogaeth lleol, neu os ydych eisoes yn aelod ond nad oes gennych gyfrinair, defnyddiwch y teclyn dod o hyd i gynllun gwarchod a welir isod a chysylltwch â’ch cydlynydd lleol.
Dod o Hyd i’ch Cynllun Agosaf yng Ngogledd Cymru
Er mwyn cofrestru neu gysylltu â’ch cynllun gwarchod agosaf yng Ngogledd Cymru, dewiswch y cynllun y mae gennych fwyaf o ddiddordeb ynddo a nodwch god post eich cartref neu’ch busnes yn llawn.
Mae’r Cynlluniau sy’n cael eu rhedeg yng Ngogledd Cymru yn cynnwys Gwarchod Ceffylau, Gwarchod Ffermydd, Gwarchod Tafarndai, Gwarchod Ysgolion, Gwarchod Siopau, gwarchod Busnesau, Gwarchod y Gymdogaeth a llawer mwy. Dewiswch un o’r rhestr uchod.
Mae OWL wedi’i gymeradwyo’n gan yr Heddlu’n genedlaethol – Eich diogelwch a’ch data
Mae OWL yn aelod o ‘Secured by Design’ sef y fenter gan Gymdeithas Prif Swyddogion Heddlu sydd â’r nod o leihau trosedd drwy gynnyrch a phrosesau arloesol. Logo SBD yw’r unig symbol sy’n gwarantu cymeradwyaeth yr Heddlu yn genedlaethol ar gyfer cynnyrch.
Mae diogelwch OWL yn cael ei brofi’n ddyddiol. Cliciwch ar logo diogelwch McAfee am gadarnhad ac i gael mwy o wybodaeth.
Yn ystod ac ar ôl y broses logio i mewn, bydd yr holl ddata a anfonir rhwng eich cyfrifiadur ac OWL yn cael ei amgryptio dros y Rhyngrwyd. Sicrhewch fod eich cyfrinair OWL yn parhau’n gyfrinach a pheidiwch â’i ddatgelu i unrhyw un, ddim hyd yn oed rhywun sy’n honni eu bod yn gweithio i’r Heddlu neu OWL.
Negeseuon Cymunedol
Os nad yw'r syniad o ymuno â Gwarchod y Gymdogaeth ddim yn apelio atoch chi ond yr hoffech dderbyn rhybuddion am droseddau a gwybodaeth atal trosedd, beth am ymuno â'r gwasanaeth Negeseuon Cymunedol. Dim ond eiliadau fydd hi’n ei gymryd i ymuno ac mae'n rhad ac am ddim.